Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (119) |
Datganiad Y Llywydd
Tynnodd y Llywydd sylw’r Aelodau at anerchiad Ei Mawrhydi y Frenhines ar Ddiwrnod y Gymanwlad, ddydd Llun 11 Mawrth. Caiff ei gyhoeddi fel rhan o Gofnod y Trafodion.
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 12 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.16
3. Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Canfod Twyll a Gorfodi) (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 14.29
NDM5184 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Darganfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Chwefror 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: Adroddiad Guilford ar y Trefniadau ar gyfer Gweithredu Rhaglenni Ewropeaidd 2014-2020
Dechreuodd yr eitem am 14.34
5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau: Rhagor o Brentisiaethau yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 15.09
6. Datganiad gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid: Fframwaith Adfywio Newydd i Gymru
Dechreuodd yr eitem am 15.48
7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: Adroddiad Diweddaru ar Hwyluso'r Drefn - Ehangu Busnes y Fferm
Dechreuodd yr eitem am 16.34
8. Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2013
Dechreuodd yr eitem am 17.11
NDM5183 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Orchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9. Dadl: Ansawdd yn GIG Cymru - sicrhau dysgu o Adroddiad Francis
Dechreuodd yr eitem am 17.22
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5182 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r argymhellion a wnaed yn adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canol Swydd Stafford ac y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio Ymchwiliad Francis i helpu i ddod o hyd i ffordd well eto o ddarparu gofal diogel a thosturiol yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Dileu popeth ar ôl ‘Swydd Stafford’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
29 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r pryderon difrifol a gododd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn dilyn yr arolygiadau urddas a gofal hanfodol a gynhaliwyd yn ein hysbytai.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
0 |
25 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) gweithredu argymhellion Adroddiad Francis sy’n berthnasol i’n GIG ni;
(b) ystyried creu gwefan “fyYsbytylleol” tebyg i wefan “fyYsgolleol” i sicrhau bod pob ysbyty'n darparu gwybodaeth hygyrch a thryloyw am berfformiad; ac
(c) cyflwyno deddfwriaeth i wneud methiant i ddarparu adroddiad cywir am yr amgylchiadau a arweiniodd at farwolaeth claf yn drosedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
0 |
25 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y potensial i bwysau ariannol yn y GIG yng Nghymru danseilio’r awydd i ddarparu gofal diogel a thosturiol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
32 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r pryderon a fynegwyd yn adroddiad Ymchwiliad Cyhoeddus Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Canol Swydd Stafford o ran lefelau staffio, ac
a) yn gresynu bod pryderon ynghylch cywirdeb a chysondeb data ar lefelau staffio hefyd wedi’u canfod gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ei adroddiad diweddar ar Wasanaethau Mamolaeth yng Nghymru (Chwefror 2013);
b) yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau i fyrddau iechyd lleol i sicrhau nad yw staff sy’n absennol am gyfnod hir, neu wedi eu hatal o’u gwaith, yn cael eu cynnwys mewn rotas staffio yn y dyfodol oni ddisgwylir iddynt ddychwelyd i’w gwaith yn fuan iawn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
0 |
25 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad llawn o Hanfodion Gofal 2003 i sicrhau bod y safonau’n parhau i adlewyrchu arfer gorau o ran gofal o fewn GIG Cymru fel y’i nodwyd gan y rhai sydd angen gofal, gofalwyr a staff.’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio Rheoliadau’r Gwasanaethau Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion, ac Iawn) (Cymru) 2011 i gynnwys gofyniad i’r hyn a ddysgir o ganlyniad i gwynion gael ei nodi, ei ledaenu a’i roi ar waith yn effeithiol gan roi gwybod i’r achwynydd ac i’r cyhoedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
0 |
25 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5182 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r argymhellion a wnaed yn adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canol Swydd Stafford ac y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio Ymchwiliad Francis i helpu i ddod o hyd i ffordd well eto o ddarparu gofal diogel a thosturiol yng Nghymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad llawn o Hanfodion Gofal 2003 i sicrhau bod y safonau’n parhau i adlewyrchu arfer gorau o ran gofal o fewn GIG Cymru fel y’i nodwyd gan y rhai sydd angen gofal, gofalwyr a staff.’
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.03
Daeth y cyfarfod i ben am 18:06
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 13 Mawrth 2013